28 A Josua a losgodd Ai, ac a'i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn.
29 Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a'i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
30 Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal,
31 Megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i'r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd.
32 Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel.
33 A holl Israel, a'u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a'u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a'r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a'u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd o'r blaen fendithio pobl Israel.
34 Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a'r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.