32 Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel.
33 A holl Israel, a'u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a'u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a'r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a'u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd o'r blaen fendithio pobl Israel.
34 Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a'r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.
35 Nid oedd air o'r hyn oll a orchmynasai Moses, a'r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel, a'r gwragedd, a'r plant, a'r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.