6 (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o'r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o'n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o'u blaen hwynt.
7 Yna chwi a godwch o'r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a'i dyry hi yn eich llaw chwi.
8 A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr Arglwydd. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.
9 Felly Josua a'u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du'r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl.
10 A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai.
11 A'r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â'r ddinas, a gwersyllasant o du'r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai.
12 Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a'u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du'r gorllewin i'r ddinas.