1 Wedi clywed hyn o'r holl frenhinoedd, y rhai oedd o'r tu yma i'r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, ar gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Canaaneaid, a'r Pheresiaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid;
2 Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.
3 A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai.
4 A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,
5 A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad amdanynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd:
6 Ac a aethant at Josua i'r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfamod â ni.