19 A'r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.
20 Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni; oherwydd y llw a dyngasom wrthynt.
21 A'r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i'r holl gynulleidfa,) fel y dywedasai'r tywysogion wrthynt.
22 Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?
23 Yn awr gan hynny melltigedig ydych: ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw.
24 A hwy a atebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i'th weision, ddarfod i'r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o'ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.
25 Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.