5 A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad amdanynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd:
6 Ac a aethant at Josua i'r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfamod â ni.
7 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi?
8 A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?
9 A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, oherwydd enw yr Arglwydd dy Dduw: canys ni a glywsom ei glod ef, a'r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft;
10 A'r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen; i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth.
11 Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymerwch luniaeth gyda chwi i'r daith, ac ewch i'w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni.