1 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem.
2 Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr Arglwydd Dduw yn dyst i'ch erbyn, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd.
3 Canys wele yr Arglwydd yn dyfod o'i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear.
4 A'r mynyddoedd a doddant tano ef, a'r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered.
5 Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem?
6 Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini.
7 A'i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a'i holl wobrau a losgir yn tân, a'i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant.