1 Gwae a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ar eu dwylo.
2 Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a'u dygant: gorthrymant hefyd ŵr a'i dŷ, dyn a'i etifeddiaeth.
3 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.
4 Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd.
5 Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr Arglwydd.
6 Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.
7 O yr hon a elwir Tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr Arglwydd? ai dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau les i'r neb a rodio yn uniawn?
8 Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn gyda'r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel.
9 Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth.
10 Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost.
11 Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i'r bobl hyn.
12 Gan gasglu y'th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn.
13 Daw y rhwygydd i fyny o'u blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o'u blaen, a'r Arglwydd ar eu pennau hwynt.