4 Yna y llefant ar yr Arglwydd, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd.
5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â'u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a'r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn.
6 Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a'r dydd a ddua arnynt.
7 Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a'r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd Duw ateb.
8 Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel.
9 Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb.
10 Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd.