4 Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w dychrynu; canys genau Arglwydd y lluoedd a'i llefarodd.
5 Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd.
6 Yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a'r hon a ddrygais:
7 A gwnaf y gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a'r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.
8 A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem.
9 Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a'th gymerodd megis gwraig yn esgor.
10 Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o'r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y'th waredir; yno yr achub yr Arglwydd di o law dy elynion.