1 Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i'n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern.
2 A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb.
3 Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i'r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.
4 Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr Arglwydd, yn ardderchowgrwydd enw yr Arglwydd ei Dduw; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear.