10 A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr Arglwydd, i mi dorri ymaith dy feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau:
11 Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd:
12 A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid:
13 Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun:
14 Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd.
15 Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.