3 Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i'r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.
4 Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr Arglwydd, yn ardderchowgrwydd enw yr Arglwydd ei Dduw; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear.
5 A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i'n tir ni: a phan sathro o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o'r dynion pennaf.
6 A hwy a ddinistriant dir Asyria â'r cleddyf, a thir Nimrod â'i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a'n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i'n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau.
7 A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.
8 A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.
9 Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a'th holl elynion a dorrir ymaith.