7 A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.
8 A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.
9 Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a'th holl elynion a dorrir ymaith.
10 A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr Arglwydd, i mi dorri ymaith dy feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau:
11 Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd:
12 A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid:
13 Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun: