1 Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr Arglwydd; Cyfod, ymddadlau â'r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais.
2 Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr Arglwydd; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a'i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel.
3 Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y'th flinais? tystiolaetha i'm herbyn.
4 Canys mi a'th ddygais o dir yr Aifft, ac a'th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o'th flaen Moses, Aaron, a Miriam.
5 Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd.