12 Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.
13 A minnau hefyd a'th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau.
14 Ti a fwytei, ac ni'th ddigonir; a'th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a'r hyn a achubych, a roddaf i'r cleddyf.
15 Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.
16 Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y'th wnawn yn anghyfannedd, a'i thrigolion i'w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.