6 Â pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid?
7 A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid?
8 Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw?
9 Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a'r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.
10 A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a'r mesur prin, peth sydd ffiaidd?
11 A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus?
12 Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.