8 Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw?
9 Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a'r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.
10 A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a'r mesur prin, peth sydd ffiaidd?
11 A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus?
12 Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.
13 A minnau hefyd a'th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau.
14 Ti a fwytei, ac ni'th ddigonir; a'th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a'r hyn a achubych, a roddaf i'r cleddyf.