12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o'r dinasoedd cedyrn, ac o'r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.
13 Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd.
14 Portha dy bobl â'th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt.
15 Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau.
16 Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant.
17 Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o'u llochesau: arswydant rhag yr Arglwydd ein Duw ni, ac o'th achos di yr ofnant.
18 Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd.