6 Canys mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ.
7 Am hynny mi a edrychaf ar yr Arglwydd, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth: fy Nuw a'm gwrendy.
8 Na lawenycha i'm herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr Arglwydd a lewyrcha i mi.
9 Dioddefaf ddig yr Arglwydd, canys pechais i'w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a'm dwg allan i'r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef.
10 A'm gelynes a gaiff weled, a chywilydd a'i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr Arglwydd dy Dduw? fy llygaid a'i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd.
11 Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf.
12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o'r dinasoedd cedyrn, ac o'r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.