1 Geiriau Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan,
2 Ddyfod o Hanani, un o'm brodyr, efe a gwŷr o Jwda; a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o'r caethiwed, ac am Jerwsalem.
3 A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o'r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a'i phyrth a losgwyd â thân.
4 A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd;
5 A dywedais, Atolwg, Arglwydd Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i'r rhai a'i carant ef ac a gadwant ei orchmynion: