Nehemeia 8 BWM

1 A'r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i'r heol oedd o flaen porth y dwfr, ac a ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd, am ddwyn llyfr cyfraith Moses, yr hon a orchmynasai yr Arglwydd i Israel.

2 Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr, a gwragedd, a phawb a'r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis.

3 Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr, o'r bore hyd hanner dydd, gerbron y gwŷr, a'r gwragedd, a'r rhai oedd yn medru deall: a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith.

4 Ac Esra yr ysgrifennydd a safodd ar bulpud o goed, yr hwn a wnaethid i'r peth hyn; a chydag ef y safodd Matitheia, a Sema, ac Anaia, ac Ureia, a Hilceia, a Maaseia, ar ei law ddeau ef; a Phedaia, a Misael, a Malcheia, a Hasum, a Hasbadana, Sechareia, a Mesulam, ar ei law aswy ef.

5 Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl; (canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl;) a phan agorodd, yr holl bobl a safasant.

6 Ac Esra a fendithiodd yr Arglwydd, y Duw mawr. A'r holl bobl a atebasant, Amen, Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr Arglwydd â'u hwynebau tua'r ddaear.

7 Jesua hefyd, a Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, a'r Lefiaid, oedd yn dysgu y gyfraith i'r bobl, a'r bobl yn sefyll yn eu lle.

8 A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yng nghyfraith Dduw: gan osod allan y synnwyr, fel y deallent wrth ddarllen.

9 A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae heddiw yn sanctaidd i'r Arglwydd eich Duw; na alerwch, ac nac wylwch: canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith.

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i'r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i'n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi.

11 A'r Lefiaid a ostegasant yr holl bobl, gan ddywedyd, Tewch: canys y dydd heddiw sydd sanctaidd, ac na thristewch.

12 A'r holl bobl a aethant i fwyta ac i yfed, ac i anfon ymaith rannau, ac i wneuthur llawenydd mawr; oherwydd iddynt ddeall y geiriau a ddysgasent hwy iddynt.

13 A'r ail ddydd, tadau pennaf yr holl bobl, yr offeiriaid, a'r Lefiaid, a ymgynullasant at Esra yr ysgrifennydd, i'w dysgu yng ngeiriau y gyfraith.

14 A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y gyfraith, yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, y dylai meibion Israel drigo mewn bythod ar ŵyl y seithfed mis;

15 Ac y dylent gyhoeddi, a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd, a thrwy Jerwsalem, gan ddywedyd, Ewch i'r mynydd, a dygwch ganghennau olewydd, a changau pinwydd, a changau y myrtwydd, a changau y palmwydd, a changhennau o'r prennau caeadfrig, i wneuthur bythod, fel y mae yn ysgrifenedig.

16 Felly y bobl a aethant allan, ac a'u dygasant, ac a wnaethant iddynt fythod, bob un ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd, ac yng nghynteddoedd tŷ Dduw, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Effraim.

17 A holl gynulleidfa y rhai a ddychwelasent o'r caethiwed, a wnaethant fythod, ac a eisteddasant yn y bythod: canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel felly. Ac yr oedd llawenydd mawr iawn.

18 Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith Dduw beunydd, o'r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf. A hwy a gynaliasant yr ŵyl saith niwrnod; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa, yn ôl y ddefod.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13