1 A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem: a'r rhan arall o'r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o'r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill.
2 A'r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem.
3 A dyma benaethiaid y dalaith, y rhai a drigasant yn Jerwsalem: ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r Nethiniaid, a meibion gweision Solomon.
4 A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem. O feibion Jwda; Athaia mab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel, o feibion Peres;
5 Maaseia hefyd mab Baruch, fab Col‐hose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni.