19 Ac o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi;
20 O Salai, Calai; o Amoc, Eber;
21 O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia, Nethaneel.
22 Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau‐cenedl: a'r offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad.
23 Meibion Lefi, y pennau‐cenedl, wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib.
24 A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a'u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth.
25 Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth.