22 Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau‐cenedl: a'r offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad.
23 Meibion Lefi, y pennau‐cenedl, wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib.
24 A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a'u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth.
25 Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth.
26 Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.
27 Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o'u holl leoedd, i'w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.
28 A meibion y cantorion a ymgynullasant o'r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi,