24 A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a'u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth.
25 Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth.
26 Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.
27 Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o'u holl leoedd, i'w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.
28 A meibion y cantorion a ymgynullasant o'r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi,
29 Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem.
30 Yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a'r pyrth, a'r mur.