30 Yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a'r pyrth, a'r mur.
31 A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom:
32 Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda,
33 Asareia hefyd, Esra, a Mesulam,
34 Jwda, a Benjamin, a Semaia, a Jeremeia,
35 Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn, Sechareia mab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff;
36 A'i frodyr ef, Semaia, ac Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw, ac Esra yr ysgrifennydd o'u blaen hwynt.