36 A'i frodyr ef, Semaia, ac Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw, ac Esra yr ysgrifennydd o'u blaen hwynt.
37 Ac wrth borth y ffynnon, yr hon oedd ar eu cyfer hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur, oddi ar dŷ Dafydd, hyd borth y dwfr tua'r dwyrain.
38 A'r ail fintai o'r rhai oedd yn moliannu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt, a minnau ar eu hôl; a hanner y bobl oedd ar y mur, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mur llydan;
39 Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid; a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth.
40 Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ Dduw, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi:
41 Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn:
42 Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A'r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor.