42 Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A'r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor.
43 A'r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys Duw a'u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a'r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.
44 A'r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i'r offeiriaid a'r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno.
45 Y cantorion hefyd a'r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu Duw, a gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab.
46 Canys gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd y pen‐cantorion, a chaniadau canmoliaeth a moliant i Dduw.
47 Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i'r cantorion, a'r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i'r Lefiaid; a'r Lefiaid a'u cysegrasant i feibion Aaron.