7 Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia: dyma benaethiaid yr offeiriaid a'u brodyr yn nyddiau Jesua.
8 A'r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia oedd ar y gerdd, efe a'i frodyr.
9 Bacbuceia hefyd ac Unni, eu brodyr hwynt, oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau.
10 A Jesua a genhedlodd Joiacim, a Joiacim a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhedlodd Joiada,
11 A Joiada a genhedlodd Jonathan, a Jonathan a genhedlodd Jadua.
12 Ac yn nyddiau Joiacim, yr offeiriaid hyn oedd bennau‐cenedl: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;
13 O Esra, Mesulam; o Amareia Jehohanan;