1 Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu'r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na'r Moabiad ddyfod i gynulleidfa Duw yn dragywydd;
2 Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i'w melltithio hwynt: eto ein Duw ni a drodd y felltith yn fendith.
3 A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.
4 Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein Duw ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia:
5 Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o'r blaen yn rhoddi y bwyd‐offrymau, y thus, a'r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a'r olew, a orchmynasid eu rhoddi i'r Lefiaid, a'r cantorion, a'r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.
6 Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin;