16 Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem.
17 Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi'r dydd Saboth?
18 Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein Duw ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi'r Saboth.
19 A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau'r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi'r Saboth: a mi a osodais rai o'm gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.
20 Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o'r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy.
21 A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i'ch erbyn. O'r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach.
22 A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio'r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.