23 Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau, Ammonesau, a Moabesau, yn wragedd iddynt:
24 A'u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o'r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl.
25 Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt: a mi a'u tyngais hwynt trwy Dduw, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i'w meibion hwynt, ac na chymerwch o'u merched hwynt i'ch meibion, nac i chwi eich hunain.
26 Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei Dduw, a Duw a'i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel; eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.
27 Ai arnoch chwi y gwrandawn, i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan droseddu yn erbyn ein Duw, trwy briodi gwragedd dieithr?
28 Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf.
29 O fy Nuw, cofia hwynt, am iddynt halogi'r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a'r Lefiaid.