28 Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf.
29 O fy Nuw, cofia hwynt, am iddynt halogi'r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a'r Lefiaid.
30 Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron; gosodais hefyd oruchwyliaethau i'r offeiriaid ac i'r Lefiaid, pob un yn ei waith;
31 Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig, ac at y blaenffrwythau. Cofia fi, O fy Nuw, er daioni.