3 A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.
4 Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein Duw ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia:
5 Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o'r blaen yn rhoddi y bwyd‐offrymau, y thus, a'r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a'r olew, a orchmynasid eu rhoddi i'r Lefiaid, a'r cantorion, a'r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.
6 Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin;
7 Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ Dduw.
8 A bu ddrwg iawn gennyf; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o'r ystafell.
9 Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ Dduw, yr offrwm a'r thus.