8 A bu ddrwg iawn gennyf; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o'r ystafell.
9 Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ Dduw, yr offrwm a'r thus.
10 Gwybûm hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a'r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bob un i'w faes.
11 Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ Dduw? A mi a'u cesglais hwynt ynghyd, ac a'u gosodais yn eu lle.
12 Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a'r gwin, a'r olew, i'r trysordai.
13 A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o'r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i'w brodyr.
14 Cofia fi, fy Nuw oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw, ac i'w wyliadwriaethau ef.