10 Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel.
11 Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem, ac a fûm yno dridiau.
12 A chyfodais liw nos, myfi ac ychydig wŷr gyda mi; ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy Nuw yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem: ac anifail nid oedd gennyf, ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno.
13 A mi a euthum allan liw nos, trwy borth y glyn, ar gyfer ffynnon y ddraig, ac at borth y dom; a deliais sylw ar furiau Jerwsalem y rhai oedd wedi eu dryllio, a'i phyrth y rhai oedd wedi eu hysu â thân.
14 Yna y tramwyais i borth y ffynnon, ac at bysgodlyn y brenin: ac nid oedd le i'r anifail oedd danaf i fyned heibio.
15 A mi a euthum i fyny gan lan yr afon liw nos, ac a ddeliais sylw ar y mur, ac a ddychwelais, ac a ddeuthum trwy borth y glyn, ac felly y troais yn ôl.
16 A'r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i, na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i'r Iddewon, nac i'r offeiriaid, nac i'r pendefigion, nac i'r penaethiaid, nac i'r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.