16 A'r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i, na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i'r Iddewon, nac i'r offeiriaid, nac i'r pendefigion, nac i'r penaethiaid, nac i'r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.
17 Yna y dywedais wrthynt, Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo, fod Jerwsalem wedi ei dinistrio, a'i phyrth wedi eu llosgi â thân: deuwch, ac adeiladwn fur Jerwsalem, fel na byddom mwyach yn waradwydd.
18 Yna y mynegais iddynt fod llaw fy Nuw yn ddaionus tuag ataf; a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedasai efe wrthyf. A hwy a ddywedasant, Cyfodwn, ac adeiladwn. Felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni.
19 Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, hyn, hwy a'n gwatwarasant ni, ac a'n dirmygasant, ac a ddywedasant, Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin?
20 Yna yr atebais hwynt, ac y dywedais wrthynt, Duw y nefoedd, efe a'n llwydda ni; a ninnau ei weision ef a gyfodwn, ac a adeiladwn: ond nid oes i chwi ran, na chyfiawnder, na choffadwriaeth yn Jerwsalem.