6 A'r brenin a ddywedodd wrthyf, a'i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo amser.
7 Yna y dywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i'r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o'r tu hwnt i'r afon, fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda;
8 A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i'r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i'r tŷ yr elwyf iddo. A'r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy Nuw arnaf fi.
9 Yna y deuthum at y tywysogion o'r tu hwnt i'r afon, ac a roddais iddynt lythyrau y brenin. A'r brenin a anfonasai dywysogion y llu, a marchogion gyda mi.
10 Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel.
11 Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem, ac a fûm yno dridiau.
12 A chyfodais liw nos, myfi ac ychydig wŷr gyda mi; ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy Nuw yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem: ac anifail nid oedd gennyf, ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno.