10 A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd Jedaia mab Harumaff, ar gyfer ei dŷ. A Hattus mab Hasabneia a gyweiriodd gerllaw iddo yntau.
11 Malcheia mab Harim, a Hasub mab Pahath‐Moab, a gyweiriasant ran arall, a thŵr y ffyrnau.
12 A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Salum mab Halohes, tywysog hanner rhan Jerwsalem, efe a'i ferched.
13 Porth y glyn a gyweiriodd Hanun, a thrigolion Sanoa; hwynt‐hwy a'i hadeiladasant ef, ac a osodasant ei ddorau ef, ei gloeau, a'i farrau, a mil o gufyddau ar y mur, hyd borth y dom.
14 Ond porth y dom a gyweiriodd Malcheia mab Rechab, tywysog rhan o Beth‐haccerem; efe a'i hadeiladodd, ac a osododd ei ddorau, ei gloeau, a'i farrau.
15 A Salum mab Col‐hose, tywysog rhan o Mispa, a gyweiriodd borth y ffynnon; efe a'i hadeiladodd, ac a'i todd, ac a osododd ei ddorau ef, ei gloeau, a'i farrau, a mur pysgodlyn Siloa, wrth ardd y brenin, a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd.
16 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemeia mab Asbuc, tywysog hanner rhan Beth‐sur, hyd ar gyfer beddrod Dafydd, a hyd y pysgodlyn a wnaethid, a hyd dŷ y cedyrn.