15 A Salum mab Col‐hose, tywysog rhan o Mispa, a gyweiriodd borth y ffynnon; efe a'i hadeiladodd, ac a'i todd, ac a osododd ei ddorau ef, ei gloeau, a'i farrau, a mur pysgodlyn Siloa, wrth ardd y brenin, a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd.
16 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemeia mab Asbuc, tywysog hanner rhan Beth‐sur, hyd ar gyfer beddrod Dafydd, a hyd y pysgodlyn a wnaethid, a hyd dŷ y cedyrn.
17 Ar ei ôl ef y cyweiriodd y Lefiaid, Rehum mab Bani. Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Hasabeia, tywysog hanner rhan Ceila, yn ei fro ei hun.
18 Ar ei ôl ef eu brodyr hwynt a gyweiriasant, Bafai mab Henadad, tywysog hanner rhan Ceila.
19 A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Eser mab Jesua, tywysog Mispa, ran arall ar gyfer y ddringfa i dŷ yr arfau, wrth y drofa.
20 Ar ei ôl ef Baruc mab Sabbai yn awyddus a gyweiriodd y mesur arall, o'r drofa hyd ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad.
21 Ar ei ôl ef Meremoth mab Ureia, fab Cos, a gyweiriodd y mesur arall, o ddrws tŷ Eliasib hyd dalcen tŷ Eliasib.