25 Palal mab Usai, ar gyfer y drofa, a'r tŵr sydd yn myned allan o ucheldy y brenin, yr hwn sydd wrth gyntedd y carchar. Ar ei ôl ef, Pedaia mab Paros.
26 A'r Nethiniaid, y rhai oedd yn trigo yn Offel, hyd ar gyfer porth y dwfr, tua'r dwyrain, a'r tŵr oedd yn myned allan.
27 Ar ei ôl yntau y Tecoiaid a gyweiriasant fesur arall, ar gyfer y tŵr mawr sydd yn myned allan, hyd fur Offel.
28 Oddi ar borth y meirch, yr offeiriaid a gyweiriasant bob un gyferbyn â'i dŷ.
29 Ar eu hôl hwynt Sadoc mab Immer a gyweiriodd ar gyfer ei dŷ. Ac ar ei ôl yntau y cyweiriodd Semaia mab Sechaneia, ceidwad porth y dwyrain.
30 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Hananeia mab Selemeia, a Hanun chweched mab Salaff, y mesur arall. Ar ei ôl yntau Mesulam mab Berecheia a gyweiriodd ar gyfer ei ystafell.
31 Ar ei ôl yntau Malcheia, mab y gof aur, a gyweiriodd hyd dŷ y Nethiniaid, a'r marchnadyddion ar gyfer porth Miffcad, hyd ystafell y gongl.