1 Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a'u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr.
2 Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a'n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.
3 Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a'n gwinllannoedd, a'n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn.
4 Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a'n gwinllannoedd.