1 Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a'u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr.
2 Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a'n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.
3 Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a'n gwinllannoedd, a'n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn.
4 Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a'n gwinllannoedd.
5 Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a'n merched yn weision, ac y mae rhai o'n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i'w rhyddhau; canys gan eraill y mae ein meysydd a'n gwinllannoedd hyn.
6 Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a'r geiriau hyn.