6 Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a'r geiriau hyn.
7 Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a'r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd. A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr.
8 Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i'r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb.
9 A mi a ddywedais, Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein Duw ni, o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion?
10 Myfi hefyd, a'm brodyr, a'm llanciau, ydym yn echwynno iddynt arian ac ŷd: peidiwn, atolwg, â'r ocraeth yma.
11 Rhoddwch atolwg, iddynt heddiw eu meysydd, eu gwinllannoedd, a'u holewyddlannoedd, a'u tai drachefn; a chanfed ran yr arian, a'r ŷd, y gwin, a'r olew, yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt.
12 Hwythau a ddywedasant, Nyni a'u rhoddwn drachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru. Yna y gelwais yr offeiriaid, ac a'u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn.