1 Ac wedi adeiladu y mur, a chyfodi ohonof y dorau, a gosod y porthorion, a'r cantorion, a'r Lefiaid;
2 Yna mi a orchmynnais i Hanani fy mrawd, ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem, canys efe oedd ŵr ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer:
3 A mi a ddywedais wrthynt, Nac agorer pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul; a thra fyddont hwy yn sefyll yno, caeant y drysau, a phreniant: a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem, pob un yn ei wyliadwriaeth, a phob un ar gyfer ei dŷ.
4 A'r ddinas oedd eang a mawr; ac ychydig bobl ynddi: a'r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu.