61 A'r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐haresa, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na'u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt.
62 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.
63 Ac o'r offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt.
64 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.
65 A'r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o'r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac â Thummim.
66 Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain.
67 Heblaw eu gweision hwynt a'u morynion, y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau.