64 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.
65 A'r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o'r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac â Thummim.
66 Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain.
67 Heblaw eu gweision hwynt a'u morynion, y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau.
68 Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain; a'u mulod yn ddau cant a phump a deugain;
69 Y camelod oedd bedwar cant a phymtheg ar hugain; yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain.
70 A rhai o'r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i'r trysor fil o ddracmonau aur, deg a deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid.