1 Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis hwn, meibion Israel a ymgynullasant mewn ympryd, ac mewn sachliain, a phridd arnaddynt.
2 A had Israel a ymneilltuasant oddi wrth bob dieithriaid, ac a safasant, ac a gyffesasant eu pechodau, ac anwireddau eu tadau.
3 A chodasant i fyny yn eu lle, ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i'r Arglwydd eu Duw.
4 Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid, Jesua, a Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani, a Chenani; a gwaeddasant â llef uchel ar yr Arglwydd eu Duw: