13 Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o'r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn, a chyfreithiau gwir, deddfau a gorchmynion daionus:
14 A'th Saboth sanctaidd a hysbysaist iddynt; gorchmynion hefyd, a deddfau, a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt, trwy law Moses dy was:
15 Bara hefyd o'r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o'r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt.
16 Ond hwynt‐hwy a'n tadau ni a falchiasant, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion di;
17 Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i'w caethiwed yn eu cyndynrwydd: eto ti ydwyt Dduw parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt.
18 Hefyd, pan wnaethent iddynt lo toddedig, a dywedyd, Dyma dy dduw di yr hwn a'th ddug di i fyny o'r Aifft, a chablasent yn ddirfawr;
19 Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i'w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na'r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi.